Skip to content ↓

Ysgol sy'n Parchu Hawliau

Beth yw Ysgol sy'n Parch Hawliau?

Fel rhan o nod ein hysgol i hyrwyddo ysgol hapus a llwyddiannus, rydym yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth fel "Ysgol sy'n Parchu Hawliau". Mae hon yn wobr a roddir i ysgolion ar ran UNICEF.UNICEF yw'r sefydliad blaenllaw yn y byd sy'n gweithio i blant a'u hawliau. Yn 1989, addawodd llywodraethau ledled y byd yr un hawliau i bob plentyn trwy fabwysiadu Confensiwn Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CRC). Mae'r hawliau hyn yn seiliedig ar yr hyn y mae angen i blentyn oroesi, tyfu, cymryd rhan a chyflawni eu potensial.Bydd y wobr 'Ysgol sy'n Parchu Hawliau' (RRSA) yn helpu ein disgyblion i dyfu i ddinasyddion ifanc hyderus, gofalgar a chyfrifol yn yr ysgol ac o fewn y gymuned ehangach. Drwy ddysgu am eu hawliau, mae plant hefyd yn dysgu am bwysigrwydd parchu hawliau pobl eraill.

Hawl y Mis

Medi -Erthygl 28 - Mae gen i'r hawl i ddysgu a mynd i'r ysgol.

Hydref  - Erthygl 12 - Mae gen i'r hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd ac i rywun wrando arnaf. 

Tachwedd - Erthygl 15 - Mae gen i'r hawl i gwrdd  â ffrindiau ac ymuno gyda grŵpiau o ffrindiau.

Rhagfyr- Erthygl 24 -  Mae gen i'r hawl i fwyd a dŵr ac i weld meddyg os ydw i'n sâl.

Ionawr - Erthygl 19 - Ni ddylen i gael fy niweidio a dylen i gael fy nghadw'n ddiogel. 

Chwefror -Erthygl 27  Mae gen i hawl i safon dda o fywyd.

Mawrth- Erthygl 31 - Mae gen i hawl i ymlacio a chwarae. 

Ebrill - Erthygl 13 - Mae gen i hawl i gael gwybodaeth. 

Mai - Erthygl 6 - Mae gen i yr hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach. 

Gofynnwch i'ch plentyn am ein Hawl y Mis.

Beth sy'n digwydd gyda ni ....