Skip to content ↓

Cwricwlwm i Gymru

Mae Cwricwlwm i Gymru wedi’i ddatblygu i gyflawni pedwar diben allweddol.

Ein nod yw cynnig ystod eang o brofiadau gwerthfawr ac ystyrlon sydd yn annog ein disgyblion i fod yn:


•     Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog
•     Unigolion iach, hyderus
•     Gyfranwyr mentrus, creadigol
•     Ddinasyddion moesol, gwybodus
 

Mae gan ein Cwricwlwm Cymru chwe maes dysgu a phrofiad.


1. Celfyddydau Mynegiannol sy’n ymgorffori celf, dawns, drama, ffilm a chyfryngau digidol, a cherddoriaeth. Bydd yn annog creadigrwydd a meddwl beirniadol ac yn cynnwys perfformio.

2. Dyniaethau sy’n ymgorffori daearyddiaeth, hanes, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Bydd yn seiliedig ar brofiadau dynol a bydd hefyd yn ymdrin â diwylliant Cymru.


3. Iechyd a lles: ymdrin ag gweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol bywyd, gan helpu disgyblion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a’u lles a dysgu sut i reoli dylanwadau cymdeithasol.


4. Gwyddoniaeth a Thechnoleg sy’n ymgorffori bioleg, cemeg, ffiseg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, a dylunio a thechnoleg.


5. Mathemateg a Rhifedd: gan gynnwys dysgu trwy chware a phrofiad gan weithio’n annibynnol ac yn gydweithredol ag eraill.


6. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Cymraeg a Saesneg, llenyddiaeth ac ieithoedd rhyngwladol, gan gynnwys dysgu Cymraeg i ddisgyblion nad ydyn nhw’n defnyddio’r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf.


Bydd cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a digidol yn cael eu hymgorffori ym mhob maes cwricwlwm.