Skip to content ↓

Gwasanaethau Cerddoriaeth

Yn Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth rydym yn cynnig amrywiaeth eang o wersi offerynnol.

Cynigir gwersi:

  • Gitâr
  • Chwythbrenau
  • Telyn
  • Ffidil
  • Soddgrwth
  • Pres

Mae’r plant sy’n cael gwersi offerynnol yn cael cyfle i berfformio mewn gwasanaeth Dathlu Doniau ar brynhawn dydd Gwener yn ogystal â mewn cyngherddau a drefnir gan yr ysgol. Mae nifer o blant yn chwarae mewn cerddorfa sy’n ymarfer yn Ysgol Plasmawr.

Mae’r ysgol yn cyd-weithio gyda gwasanaethau cerdd er mwyn cynnig y gwersi offerynnol canlynol. Os hoffech chi wybodaeth pellach, cysylltwch gyda’r ysgol neu cliciwch ar y dolennau isod.