CDU
Beth yw CDU?
Bydd gan blant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Gynllun Datblygu Unigol (CDU).
Dogfen gyfreithiol yw’r CDU sy’n disgrifio anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a’r canlyniadau yr hoffent eu cyflawni.
Mae’n “gynllun” oherwydd ei fod nid yn unig yn disgrifio’r ADY, ond mae hefyd yn cynllunio’r camau y mae’n rhaid eu cymryd ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc. Mae hefyd yn darparu cofnod er mwyn gallu monitro ac adolygu cynnydd plentyn neu berson ifanc.
Yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd cynlluniau datblygu unigol (CDU) yn disodli’r holl gynlluniau presennol gan gynnwys:
- Datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
- Cynlluniau Addysg Unigol (CAU) ar gyfer dysgwyr a gefnogir ar hyn o bryd drwy Weithredu’r Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu’r Blynyddoedd Cynnar a Mwy/Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.
- Cynlluniau Dysgu a Sgiliau (ar gyfer dysgwyr dros 16 oed)
Bwriad y CDU yw bod yn ddogfen hyblyg. Bydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod yn dibynnu ar anghenion gwahanol y plentyn neu’r person ifanc.
Bydd y CDU yn cael ei adolygu bob 12 mis a bydd yn newid yn ôl anghenion newidiol y plentyn neu’r person ifanc.