Skip to content ↓

Ymateb Graddedig

Pa gam? Beth yw'r angen?

Mae'r lluniau uchod yn dangos taith ADY plentyn yn yr ysgol. 

Cam 1 - Ar gael i bawb

Bydd nifer fawr yn derbyn cymorth Cam 1, sydd ar gael i bawb, yn ystod eu hamser yma yn Ysgol Gwaelod y Garth. Gall hyn gynnwys offer arbennig i helpu ddal pensil i gymorth ychwanegol o fewn y dosbarth. Yn aml iawn cymorth dros dro neu am amser byr yw hyn a ni fydd angen mwy na hyn.

Cam 2 - Cymorth wedi'i dargedu

Os yw'r athro neu athrawes yn teimlo nad yw'r plentyn yn gwneud cynnydd digonol neu eu bod angen mwy o gymorth byddant yn edrych ar Gam 2 - Cymorth wedi'i dargedu. Bydd yr athro yn trafod hyn gyda chi mewn cyfarfod neu yn ystod noson rieni. Bydd eich plentyn yn derbyn cymorth efallai gan gynorthwyydd yn yr ysgol - megis dysgu dwys darllen neu sillafu. Gall y cam yma gymryd amser oherwydd mae unigolion yn datblygu ar raddfa personol. Os yw'r plentyn yn dangos ychydig o gynnydd yna mae'r cymorth yn helpu.

Cam 3 - Cymorth Strwythedig

Bydd nifer fach o blant angen mwy o gymorth gan nad ydynt yn gwneud cynnydd disgwyliedig. Yn y cam yma, bydd yr ysgol yn trafod gyda rhiant/gofalwr  am y posibiliad o asesiadau gan dimoedd arbenigol. Byddwch yn cwrdd yn fwy aml gyda'r athro dosbarth ac yn aml gyda'r CADY.  Bydd CADY'r ysgol yn trafod y plentyn yn ddienw mewn cyfarfod blaenoriaethu. Bydd yr arbenigwyr yn cynnig cymorth i'r ysgol ac yn cynghori os oes angen asesiad. Bydd y CADY wedyn yn paratoi ffurflen gais a bydd angen mewnbwn a llofnod y rhiant ar gyfer hyn. Ar ôl yr asesiad efallai bydd angen cynllun gwaith unigol ar eich plentyn a bydd yr ysgol yn gyfrifol am sicrhau fod hyn yn cael ei ddilyn.

Cam 4 Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol

Weithiau pan fydd y plentyn wedi dilyn y camau neu angen llawer o gymorth i gael mewnbwn i'r cwricwlwm bydd angen trafod os oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Bydd hyn yn golygu bod angen cymorth sy'n ychwanegol i neu'n wahanol i unrhyw un arall yn y dosbarth er mwyn cael mynediad i'r cwricwlwm. Unwaith mae athro neu riant yn codi pryder o ADY bydd broses 35 diwrnod yn cychwyn. Mewn Cyfarfod Person Canolig bydd staff y rhiant/gwarchodwr, athro, arbenigwyr a'r CADY yn trafod ac yn dod i benderfyniad ar sail tystiolaeth fanwl os oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol sy'n wahanol i ac yn ychwanegol i bawb arall er mwyn cael mewnbwn i'r cwricwlwm.  Os penderfynwyd fod gan y plentyn ADY sydd angen DDdY yna, bydd y CADY yn creu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ac yn rhan o hwn fydd y DDdY. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar ein gwefan.