Gwisg Ysgol
Mae gan yr ysgol wisg ysgol swyddogol a gobeithiwn y byddwch yn annog y plant i’w gwisgo bob dydd. Mae gwisgo gwisg ysgol yn arwain at falchder yn yr ysgol ac yn ein cynorthwyo i osod a chynnal safonau personol ac academaidd uchel.
Glas a llwyd yw lliwiau’r ysgol a gallwch brynu’r wisg gan YC Sport, Yr Eglwys Newydd.
Y wisg:
Sgert neu drowsus llwyd
Crys polo glas golau
Crys chwys glas tywyll
Dylai esgidiau fod yn rai tywyll.
Oherwydd diogelwch ni chaniateir gemwaith ag eithrio oriawr a chlustdlysau bach.
Hysbysir chi ar ba ddyddiau y bydd eich plentyn yn cael gwersi Addysg Gorfforol.
Ar gyfer y gwersi hyn bydd angen crys-T glas golau a throwsus neu siorts tywyll.
A fyddech cystal â sicrhau bod enw eich plentyn ar bob dilledyn mae’n ei g/wisgo yn yr ysgol.
Dyma wefan y cwmni. For more information, click below.
https://www.ycsports.com/collections/gwaelod-y-garth-primary-school
|
|
|