Ysgolion Uwchradd
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion Gwaelod y Garth yn trosglwyddo i dair ysgol uwchradd. Bydd nifer o’r adran Gymraeg yn trosglwyddo i Ysgol Gyfun Plasmawr neu Ysgol Gyfun Garth Olwg a nifer yn yr adran Saesneg yn trosglwyddo i Ysgol Gyfun Radyr.
Darperir amrywiaeth o weithgareddau trosglwyddo gan y dair ysgol i sicrhau pontio esmwyth o un ysgol i’r llall.
Mae’r pennaeth ac aelodau staff yn cwrdd yn rheolaidd â’r ysgolion uwchradd i drafod datblygiadau cwricwlwm a phynciau eraill a fydd yn cynorthwyo gyda phontio llyfn i’n holl ddisgyblion.
Ym Mlwyddyn 6 mae’r Awdurdod Lleol yn danfon pamffled manwl at rieni sy’n rhoi’r holl wybodaeth berthnasol am y weithdrefn ar gyfer ceisiadau a derbyniadau ysgolion uwchradd.
|
|
|