Skip to content ↓

WI

Y WI

Mae sefydliad y WI Gwaelod y Garth yn cwrdd ar y Dydd Mawrth cyntaf o bob mis am 7.30yh. Mae ganddynt lawer o siaradwyr diddorol ac mae aelodau'n cymryd rhan mewn clwb cerdded ac yn ymweld â mannau o ddiddordeb. Byddai croeso cynnes i unrhyw un sy'n dymuno ymuno - aelodau iau a hŷn o deuluoedd y disgyblion. Os oes gennych ddiddordeb, beth am ddod draw? Am fwy o fanylion, cysylltwch â Jen Hammett ar 02920 810614.

Mae'r sefydliad wedi derbyn grant loteri am y pedair mlynedd diwethaf sydd wedi eu galluogi i addysgu gwnïo, coginio a gwau i ddisgyblion Blwyddyn 5 yr ysgol.