1C
Croeso cynnes i 1C
Dyma wybodaeth i chi am drefniadau Gwaith eich plentyn yn 1C. Os oes gennych unrhyw gwestiynnau eraill cofiwch gysylltu gyda mi yn yr ysgol drwy ffonio y brif swyddfa neu e bostio Mrs Ellis EllisA74@hwbcymru.net
Mae llawer o wybodaeth pwysig am y dosbarth ac am drefn yr ysgol yn y llawlyfr yr ysgol hefyd sydd ar wefan yr ysgol.
Bydd ymarfer corff ar Ddydd Llun. Bydd eich plentyn angen gwisg addas ar gyfer y gwersi os gwelwch yn dda. Gweler llawlyfyr yr ysgol am y wisg cywir.
Bydd angen cot law ac esgidiau glaw ar eich plentyn i’w cadw yn yr ysgol gan ein bod yn mynd i ddefnyddio’r ardal tu fas yn rheolaidd. Cofiwch roi enw eich plentyn arnynt yn glir.
Bydd angen i’ch plentyn ddod a photel o ddwr gyda ef/hi i’r ysgol bob dydd gyda enw y plentyn yn glir arno. Gan ein bod yn ysgol iach gofynnwn yn garedig i chi ddanfon dwr a nid sudd y neu potel.
Byddwn yn casglu arian snac am yr hanner tymor os gwelwch yn dda. Gofynnwn yn garedig i chi dalu gyda arian parod.
A wnewch chi sicrhau eich bod yn rhoi dillad sbar yn bag ysgol eich plentyn rhagofn unrhyw ddamweiniau. Dylid cynnwys dillad isaf a sanau hefyd os gwelwch yn dda.
Gofynnwn yn garedig am gadarnhad os oes unrhyw un yn wahanol yn casglu eich plentyn neu os yw yn mynd adre ar y bws am reswm.
Bydd Bwydlen Gwaith Cartref dewisol ar dudalen Google Classroom Dosbarth 1C. Hoffwn petai chi yn helpu eich plentyn i gwblhau y dasg yn ystod yr hanner tymor os gwelwch yn dda.
Bydd eich plentyn yn dod a llythrennau/geiriau neu lyfr darllen adre gyda ef/hi ar ddydd Gwener. Gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd y bag gwaith cartref bob Dydd Mawrth fel ein bod yn gallu darllen gyda’ch plentyn yn y dosbarth drwy rhoi set newydd o lythrennau/geiriau neu lyfr i’ch plentyn. A wnewch chi ddarllen y llythrennau/geiriau neu wrando ar eich plentyn yn darllen y llyfr gan lofnodi y llyfr cofnodi glas.
Cofiwch ddilyn cyfri trydar yr ysgol @gwaelod. Efallai y gwelwch chi rywun rydych yn ei adnabod!
Diolch o galon am eich cymorth a’ch cydweithrediad.
Mrs Anwen Ellis a Mrs Julie Earles
Er mwyn eich galluogi i ymarfer darllen adref , rydym ni wedi gosod rhai o lyfrau Tric a Chlic a Chyfres Ddarllen Coeden Rhydychen yma. Gobeithio bydd hyn o gymorth i chi.