Croeso i Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth. Mae dewis yr ysgol iawn yn hanfodol bwysig ac mae pob un ohonom am sicrhau’r addysg orau un i'n plant. Rydym am wneud yn siwr bod eich plentyn yn hapus, yn ddiogel ac yn cael ei ysbrydoli yn ein hysgol. Rwy'n hynod falch o fod yn Bennaeth Gwaelod y Garth ac arwain tîm o staff ymroddedig a brwdfrydig sy'n rhoi anghenion ein plant yn gyntaf. Ein nod fel ysgol yw darparu'r safonau addysg a chefnogaeth uchaf posibl i'n holl ddisgyblion lle mae gan bob disgybl ac aelod o'r tîm gyfleoedd niferus i gyflawni a rhagori ar ei botensial lle nad oes nenfwd.
Learn More View Videos